Lluoedd Arfog yn Recriwtio mewn Ysgolion

Ymchwiliad Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Ebrill 2013

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Lluoedd Arfog yn Recriwtio mewn Ysgolion

Ymateb UCAC i gais Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am wybodaeth

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn croesawu’r cyfle hwn i ymateb i gais y Pwyllgor Deisebau. Mae’r undeb yn cynrychioli 5,000 o athrawon, arweinwyr ysgol a darlithwyr addysg bellach ac addysg uwch ym mhob rhan o Gymru.

 

·      A oes gennych unrhyw bryderon am y Lluoedd Arfog yn rhoi cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion neu a ydych yn croesawu'r ffaith bod cyngor o’r fath ar gael?

·      Beth yw manteision ac anfanteision bod y Lluoedd Arfog yn rhoi cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion?

·      Pa effaith, os o gwbl, y byddai rhwystro’r Lluoedd Arfog rhag dod i ysgolion yn ei chael ar sicrhau bod gwybodaeth am yrfaoedd yn y lluoedd arfog ar gael i bobl ifanc?

Gresynwn at y ffaith bod y Deyrnas Gyfunol yn caniatáu recriwtio i’r lluoedd arfog yn 16 oed. Mae hyn yn groes i’r arfer yng ngweddill gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a NATO sy’n gosod y trothwy yn 18 oed. Yn ogystal, mae’n groes i gyfeiriad ymrwymiadau cyfreithiol rhyngwladol gan gynnwys y Protocol Opsiynol i Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig (OPAC).

Serch hynny, rhaid derbyn bod y lluoedd arfog yn cynnig broffesiynau cydnabyddedig a chyfreithlon.

Yn sgil hynny, credwn, o safbwynt ysgolion, ei bod hi’n bwysig ceisio gwahaniaethu rhwng recriwtio ar y naill law, a darparu cyngor gyrfaoedd ar y llall.

Byddai UCAC yn wrthwynebus i ymdrechion o fewn ysgolion i recriwtio disgyblion dan-18 i’r lluoedd arfog. Credwn nad yw’n briodol i blant fod yn rhan o weithgaredd arfog, nac yn peryglu’u bywydau yn sgil eu gwaith, cyn cyrraedd oedran oedolaeth nac oedran pleidleisio. Am eu bod yn dod yn rhy agos at weithgaredd recriwtio, mae UCAC yn gwrthwynebu sefydlu unedau cadéts o fewn ysgolion.

Fodd bynnag, byddai UCAC yn amddiffyn hawl disgyblion i dderbyn gwybodaeth am y lluoedd fel llwybr gyrfa ôl-18 posib yng nghyd-destun derbyn gwybodaeth am lwybrau gyrfa amrywiol eraill. Ni fyddai’n briodol i geisio rhwystro disgyblion rhag derbyn yr wybodaeth hon a allai arwain at yrfa.

·      A oes gennych unrhyw dystiolaeth bod y Lluoedd Arfog yn targedu ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig gyda'u gweithgareddau?

Nid oes gennym dystiolaeth gadarn ynghylch y mater hwn.

 

·      A fydd y Lluoedd Arfog yn gweithio mewn ffordd wahanol mewn ysgolion annibynnol ac mewn ysgolion awdurdodau lleol?

Nid oes gennym dystiolaeth ynghylch y mater hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

UCAC_A4_Newsletter_Boilerplate.jpg